GŴYL RHEDEG BIWMARES 2026 – 12/13 MEDI 2026
Mae Gŵyl Rhedeg Biwmares 2026 yn cael ei chynnal ar 12/13 Medi 2026. Mae'r digwyddiad yn croesawu Neptune Fish & Chips o Fiwmares eto fel ein prif noddwr!
Gan adeiladu ar lwyddiant 5 digwyddiad blaenorol, bydd y penwythnos yn cynnwys rasys i blant a’r rasys 10K a hanner marathon Coast 2 Castle i oedolion.
Gŵyl Rhedeg i Blant – Dydd Sadwrn 12 Medi
Mae’r rasys plant (Junior Run Fest) unwaith eto yn dod mewn partneriaeth â Môn Actif ac yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn 12 Medi gan ddechrau am 4:00yp. Bydd “Ras Hwyl” i blant 3/4 oed (a rhieni / gofalwyr!), a rasys i fechgyn a merched 5/6 oed (1/2 milltir), 7/8 oed ( 3/4 milltir), 9/10 oed (1 milltir) a 11/12 oed (1 milltir).
Bydd yr holl rasys plant yn cael eu hamseru’n electroneg ac yn cychwyn a gorffen o fewn muriau castell hanesyddol Biwmares! Bydd medalau i bob plentyn a gwobrau i’r 3 uchaf ym mhob categori ynghyd ag adloniant a lluniaeth ysgafn.
Gŵyl Rhedeg Clasurol (Oedolion) – Dydd Sul 13 Medi
Bydd y rasys 10K a hanner marathon (HM) i oedolion yn cael eu cynnal ddydd Sul 13 Medi. Bydd y llwybrau ar gyfer y 10K a’r HM yn cychwyn o ganol Biwmares ac yn gorffen yng nghanol castell hanesyddol y dref – diweddglo epig! Ar hyd y ffordd, cewch fwynhau amrywiaeth o olygfeydd syfrdanol a golygfeydd trawiadol.
Mae’r cwrs HM hefyd yn mynd â chi lawr at Drwyn Penmon gyda’i oleudy eiconig yn edrych ar draws i Ynys Seiriol.
Ar y diwedd, byddwch yn derbyn momento ras i gofio eich hymdrechion a chrys-t Coast 2 Castle o safon*. Bydd gwobrau ar gyfer y 3 cyntaf ymhob categori. Mae'r HM yn dechrau am 10:00am a'r 10K am 10:10am.
* Mae'r crys-t ar gael i'r 300 oedolyn cyntaf sydd yn cofrestru ar gyfer yr Ŵyl Rhedeg yn unig.
Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan wirfoddolwyr ac mae'r holl elw a godir yn ystod y penwythnos Run Fest yn mynd tuag at gefnogi achosion da yn yr ardal. Helpwch ni i ragori ar y £5,000 a godwyd gennym y llynedd!
Prisiau
Gwyl Rhedeg Plant – Dydd Sadwrn 12 Medi
Mae categorïau oedran yn seiliedig ar oedran plentyn ar ddiwrnod y digwyddiad.
Cost mynediad: £7.00 y plentyn
Cyfradd ‘Cyntaf i’r Felin’: £6.00 ar gyfer os yn cofrestru cyn 1 Mai 2026!
Mae'r pris yn cynnwys ffïoedd cerdyn, amseru electroneg, lluniaeth a medalau
Gŵyl Rhedeg Oedolion – Dydd Sul 13 Medi
Prisiau yn dal i gynnwys ffioedd cerbyn, amseru electroneg, lluniaeth, medal a chrys-t*
(*Mae'r crys-t ar gael i'r 300 oedolyn cyntaf i gofrestru yn unig)
10K: £30.00
Cyfradd ‘Cyntaf i’r Felin’ £27.00 os dderbynnir eich cais cyn 1 Mai 2026
HM: £38.00
Cyfradd ‘Cyntaf i’r Felin’ £35.00 os dderbynnir eich cais cyn 1 Mai 2026

